
ALT Bydd y diwrnod pan dderbyniodd Dewi Pws radd doethur er anrhydedd gan Brifysgol Abertawe yn 2018 yn aros yn hir yn y cof i mi ac i staff Academi Hywel Teifi. Bu’n ddiwrnod o chwerthin di-ben-draw gyda Dewi, yn ei ddull dihafal arferol, yn tynnu coes a chanfod digrifwch yn y rhwysg a’r pomp seremonïol gan ein gadael yn ein dyblau. Ond roedd hi’n amlwg ei fod wedi ei gyffwrdd yn ddwfn gan y ffaith i Brifysgol ei ddinas enedigol gydnabod ei gyfraniad amhrisiadwy i ddiwylliant yr iaith Gymraeg mewn cynifer o feysydd. Mae’n gadael gwaddol hael – sydd ar adegau’n ddigon eiconoclastig a herfeiddiol – o ganeuon a cherddoriaeth, barddoniaeth a llyfrau, dramau a chyfresi teledu fydd yn greiddiol i’n diwylliant poblogaidd tra pery’r Gymraeg. Welwn ni neb tebyg eto i Dewi Pws, ond diolch byth bod Treboeth wedi rhannu’r crwt drygionus hwn â Chymru a meithrin ynddo gariad diwyro at y Gymraeg a’i phethe. Anfonwn ein cydymdeimladau dwysaf at Rhiannon a theulu a chyfeillion Dewi.






























